Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (103) |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiynau 1 i 3, 5 i 6 ac 8 i 15. Tynnwyd cwestiynau 4 a 7 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
Cwestiwn Brys
Dechreuodd yr eitem am 14.28
Byron Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i wladoli Maes Awyr Caerdydd.
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.36
3. Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar bobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant ac Ymgysylltiad â Phobl Ifanc - Gohiriwyd
4. Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar Cymwysterau Cymru
Dechreuodd yr eitem am 14.53
5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd ar yr Ymgynghoriad ar Raglenni’r Cronfeydd Strwythurol ar gyfer 2014 - 2020
Dechreuodd yr eitem am 15.24
6. Datganiad gan y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth ar ailddechrau defnyddio eiddo gwag: cynllun Troi Tai’n Gartrefi
Dechreuodd yr eitem am 16.01
7. Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus - cymalau sy’n ymwneud â’r cyfyngiadau sydd i’w cymhwyso i gynlluniau newydd - Gohiriwyd
8. Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Atal Twyll Tai Cymdeithasol
Dechreuodd yr eitem am 16.42
NDM5082 Huw Lewis (Merthyr Tudful a Rhymni)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau'r Bil Atal Twyll Tai Cymdeithasol i'r graddau y mae'r darpariaethau hynny o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Hydref 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
9. Dadl ar y Setliad Llywodraeth Leol
Dechreuodd yr eitem am 16.53
NDM5127 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2013-2014 (Setliad Terfynol – Cynghorau) a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Ionawr 2013.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y
cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
34 |
5 |
11 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig.
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 17.41
10. Dadl Fer - gohiriwyd o 21 Tachwedd 2012
Dechreuodd yr eitem am 17.43
NDM5100 Andrew RT Davies (Canol De Cymru):
A yw Cynlluniau Datblygu Lleol yn addas i’r diben?
Mae angen diwygio'r system yn ei hanfod os yw am sicrhau canllawiau tymor hir effeithiol ar gyfer cynllunio a datblygu yng Nghymru.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:06
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 9 Ionawr 2013